
Art
Gweithdy Celf: Arddangosfa Slime Mother Abi Palmer
Nodweddion
- Math Workshops
Sesiwn galw heibio. Does dim angen archebu.
Mae arddangosfa unigol gyntaf Abi Palmer yn creu bydysawd amgen, lle caiff gwlithod eu haddoli. Drwy lysnafedd, cwiardeb, a defodau paru erotig ac estron, mae Slime Mother yn eich gwahodd chi i gofleidio dieithrwch y wlithen.
Bydd Alex Miller yn cynnal gweithdy celf am ddim lle bydd gennych gyfle i greu rhywbeth sydd wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa Abi, sy’n cynnwys ffilm, cerflunwaith, a disgo gwlithaidd!
Mae dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar y sgrin ar gael ar gyfer y ffilm, sy’n chwarae bob 15, 30, a 45 munud wedi’r awr (mae’n para 7 munud i gyd). Mae disgrifiadau sain i’r ffilm hefyd ar yr awr, bob awr.
Galwch heibio i weld yr arddangosfa, yna baeddwch eich dwylo gyda chrefftau gwlithaidd!
Does dim angen archebu, mae croeso i roddion. Mae pob rhodd yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein rhaglen artistig, gan adeiladu cymunedau creadigol yng Nghymru. Dysgwch fwy yma.