Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Performance

Bragod: Summer Heats

£0 - £12

Nodweddion

Ymunwch â ni ar gyfer yr ail mewn cyfres o ddanteithion tymhorol gan Bragod, y ddeuawd berfformio gerddorol sy’n cynnwys yr offerynnwr o Gymru Robert Evans a’r gantores o ynys Trinidad Mary-Anne Roberts:

‘What Winter confines, Spring releases, Summer heats and Autumn ripens’ Boethius, Chweched Ganrif.

Mae 'Summer Heats' yn cyflwyno cyfansoddiad newydd gan Bragod mewn deialog gyda John Mills a Kate Price, a fydd yn chwarae cerddoriaeth draddodiadol o Sweden.

___

Ynglŷn â'r artistiaid

Mae byd tonyddol eithriadol Bragod yn datgelu gwreiddiau gwirioneddol cerddoriaeth. Gan ddefnyddio offerynnau a ffynonellau gwreiddiol, mae’r ddeuawd unigryw yma’n archwilio cerddoriaeth a barddoniaeth ganoloesol a seremonïol Cymru, gan arbrofi a dychmygu. Mae Robert Evans yn chwarae’r delyn fach Ewropeaidd a’i disgynnydd, y crwth. Mae Mary-Anne Roberts yn canu’n eofn wrth droedio patrymau deuaidd y gerddoriaeth hudol yma: gallwn glywed y bydysawd. Maen nhw’n rhoi datganiadau acwstig yn rhyngwladol, yn chwarae cerddoriaeth ddefodol i’w cymuned leol, ac wedi gwneud gwaith comisiwn yn gosod cerddi modern.

Share

Times & Tickets