
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Haneen Koraz
Gŵyl Animeiddio Caerdydd: Straeon am Gryfder gan Blant Gaza
Artist animeiddio ac addysgwr yn Gaza yw HaneenKoraz. Yn ystod y rhyfel yn Gaza, mae Haneen a'i thîm o animeiddwyr benywaidd wedi bod yn cynnal gweithdai ac yn creu ffilmiau gyda phlant a menywod sydd wedi'u dadleoli.
Mae JoannaQuinn a Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn dod â rhai o'r ffilmiau animeiddiedig yma o Gaza i'r sgrin fawr yng Nghaerdydd ar gyfer dangosiad codi arian arbennig. Dewch i weld cryfder anhygoel plant Gaza – a helpwch i godi arian ar gyfer y gweithdai yma sy'n dod â gobaith a llawenydd i'r plant a'u teuluoedd sy'n byw mewn ofn.
Os na allwch chi ddod, ond eich bod yn awyddus i gefnogi'r digwyddiad codi arian a drefnwyd gan Ŵyl Animeiddio Caerdydd a JoannaQuinn er mwyn cefnogi gweithdai Haneen yn Gaza, gallwch chi:
Ymweld â gwefan Gŵyl Animeiddio Caerdydd
Dilyn tudalen Instagram y Gymuned Animeiddio dros Balesteina
Times & Tickets
-
Dydd Sul 22 Mehefin 2025
More at Chapter
-
- Film
No-One Is Illegal (15) + Q&A
-
- Film
The Encampments (15)
-
- Film
SAFAR 2025: A State of Passion + Q&A
Mae llawfeddyg rhyfel yn ymddangos o Gaza i alw am gyfiawnder yn y ffilm ddogfen ddadlennol ac amrwd yma.
-
- Film
SAFAR 2025: Watch Out For ZouZou
Pan mae athro’n syrthio mewn cariad â'i fyfyriwr Zouzou, mae ei ddyweddi’n penderfynu datgelu ei chyfrinach.