
Ffilmiau Chapter 13 – 19 Mehefin
- Published:
Yn y cyfnod cyn rhyddhau’r fersiwn hir-ddisgwyliedig o 28 Years Later, rydyn ni’n dangos y ffilm wreiddiol 28 Days Later! Ymunwch â ni am ragolwg o 28 Years Later ddydd Iau 19 Mehefin, 8.10pm.
Mae Protein, Made in Wales, yn ôl ar y sgrin fawr ar ôl y rhagolwg ym mis Chwefror. Mae'n archwiliad dwfn ac arswydus o fyd llofrudd cyfresol canibalaidd erchyll.
Dangosiad y Clwb Ffilm Byddar y mis hwn yw’r ffilm gyffro llawn tyndra Tornado! Mae ein Clwb Ffilm Byddar yn gyfle i bawb gymryd rhan mewn trafodaeth ar ôl y dangosiad a chreu cymuned newydd o fynychwyr sinema! Mae croeso i bawb.