Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Film

From Hilde With Love (15)

15
  • 2025
  • Germany

£0 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Andreas Dresden
  • Tarddiad Germany
  • Blwyddyn 2025
  • Tystysgrif 15
Aermaneg gyda is-deitlau Saesneg

Yn y ddrama hanesyddol hudolus hon, rydyn ni’n treulio amser gyda HildeCoppi, arwres y gwrthsafiad gwrth-Natsïaidd yn Berlin. Ym 1942, tra’n feichiog, cafodd Hilde ei dal gan y Gestapo, a’i chyhuddo o drawsgrifio negeseuon mewn cod o Moscow fel rhan o grŵp ymgyrchwyr y Red Orchestra. Wrth i Hilde aros ei thynged, mae hi'n edrych yn ôl ar ei chyfnod rhamantus a hapus gyda Hans a darganfod y mudiad ymgyrchu gobeithiol yn yr hyn a ddaw'n haf harddaf ei bywyd wrth i’r byd ymbil am heddwch. Gyda pherfformiad rhyfeddol gan Liv Lisa Fries (Babylon Berlin) ac wedi'i ffilmio mewn arddull atgofus, mae hwn yn bortread trawiadol o gariad mewn cyfnod o berygl a gormes enbyd.

Share

Times & Tickets