Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Grenfell: We Stand With You — next steps

  • Published:

Roedden ni eisiau rhannu manylion rhai o’r bobl a’r sefydliadau gwych a gynhaliodd weithdai, sgyrsiau a thra­fodaethau yn ystod y Grenfell: Safwn gyda chi, wedi’i guradu gan Common/​Wealth.

Rydyn ni'n gwybod bod llawer ohonoch chi am ddilyn eu gwaith a chadw mewn cysylltiad:

Exhibiting artists and performers:

Yn dilyn Cymru - Cenedl Noddfa?, cawsom ymholiadau gan aelodau’r gymuned ynglŷn â sut i gefnogi ffoaduriaid yng Nghaerdydd. Dyma rai adnoddau a sefydliadau a allai fod o ddiddordeb i chi:

  • Oasis: Cefnogi dros 3,500 o bobl yng Nghaerdydd bob blwyddyn gydag amrywiaeth o wasanaethau galw heibio am ddim.
  • Housing Justice Cymru: Cymryd camau gweithredu ar ddigartrefedd yng Nghymru, gan gynnwys rhedeg y Prosiect Lletya.
  • Cyngor Ffoaduriaid Cymru: Grymuso ceiswyr lloches a ffoaduriaid i greu dyfodol newydd yng Nghymru.
  • Space4U: Gwasanaethau i geiswyr lloches a ffoaduriaid yn Neuadd Eglwys St Germans, y Sblot. Yn dychwelyd i Ganolfan y Drindod ar Four Elms Road o fis Gorffennaf 2025.
  • FfoaduriaidCaerdydd: Cyfeiriadur o wasanaethau lleol.
  • Dinas Noddfa Caerdydd: Rhwydwaith o dros 52 o sefydliadau sydd wedi addo cefnogi gwerthoedd cenedl noddfa.

Mae pobl hefyd wedi gofyn i ni ynglŷn â chysylltu â’u Haelod o’r Senedd. Mae gan wefan y Senedd declyn defnyddiol ar gyfer dod o hyd i'ch cynrychiolydd drwy nodi'ch cod post. Dod o hyd i Aelod o’r Senedd.

Mae Grenfell United yn parhau â'u hymgyrch i gofio, myfyrio a mynnu cyfiawnder. Darllenwch eu canllaw ‘sut gallwch chi weithredu’.

Gan edrych ymlaen, efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn dathlu Wythnos Ffoaduriaid yn Chapter. Rydyn ni wedi rhaglennu cyfres o ffilmiau sy'n rhannu straeon ffoaduriaid a mudwyr, yn ogystal â gweithdy canu gydag Oasis a sgwrs gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Theatr Al Harah ym Mhalesteina.

Mae ein ffrindiau yn Common/Wealth wrthi'n gweithio ar sioe newydd sy'n archwilio anghyfiawnder yr heddlu a'r heddlu cudd a fu’n gweithredu oddi fewn i rwydweithiau ymgyrchwyr. Mae Demand The Impossible yn agor yn y Corn Exchange yng Nghasnewydd, o 6-13 Hydref.

Diolch eto am ymuno â ni - edrychwn ymlaen at eich gweld chi eto!