
Swyddi a Chyfleuoedd
Rydyn ni’n diogelu gweithle sy’n rhydd rhag pob math o wahaniaethu ac yn hyrwyddo tegwch ar draws ein sefydliad. Rydyn ni wedi’n ffurfio ar sail cyfraniadau gwerthfawr, gwybodaeth a phrofiad yr holl staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr, ac rydyn ni’n annog pawb sydd â diddordeb mewn gyrfa neu gyfle creadigol i ddilyn ein Cod Ymddygiad.
Rydyn ni’n ganolfan i bawb, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb. Mae ein gweithdrefn ymgeisio yn ddienw.
Rydyn ni’n gyflogwr cefnogol a chyfeillgar, ac yn cynnig oriau gweithio hyblyg a gweithio hybrid lle bo’n bosib. Rydyn ni’n gyflogwr cyflog byw ac mae ein buddion staff yn cynnwys:
- 5.6 wythnos o wyliau y flwyddyn, gan gynnwys gwyliau banc, pro rata ar gyfer swyddi rhan amser
- Cinio am ddim pan fyddwch yn gweithio yn yr adeilad
- Dau docyn sinema am ddim y mis
- Gostyngiad ar docynnau sinema a theatr
- 20% oddi ar fwyd a diod yn y Caffi Bar
- Cynllun Cymraeg Gwaith
- Cynllun pensiwn cyfrannol, y byddwch yn cael eich ymrestru iddo’n awtomatig (yn dibynnu ar amodau’r cynllun). Mae’r cynllun yn eich galluogi i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad gan ddefnyddio eich arian eich hunan, ynghyd â rhyddhad treth a chyfraniadau gan Chapter
- Tâl mamolaeth a mabwysiadu uwch ar ôl blwyddyn o wasanaeth
- Mynediad at Raglen Cynorthwyo GweithwyrTe/coffi am ddim o’r Caffi Bar
- Cefnogaeth ar gyfer datblygiad parhaus
- Gofal Llygaid ar gyfer Gwaith Cyfarpar Sgrin Arddangos
- Rheseli beiciau diogel
- Parcio i staff
Mae’r holl ddisgrifiadau swydd i’w gweld yn llawn fel ffeil i’w lawrlwytho isod.
Mae pob croeso i unrhyw gwestiynau am unrhyw swydd neu gyfle, a gallwch eu hanfon at [email protected].
Er mwyn gwneud cais am un o’n swyddi, llenwch y ffurflen gais, y gallwch ei lawrlwytho isod, a’i dychwelyd i [email protected]. Llenwch ffurflen Cyfle Cyfartal a’i chyflwyno cyn y dyddiad cau.
Cynorthwyydd Codi Arian
Er mwyn gwneud cais am un o’n swyddi, llenwch y ffurflen gais, y gallwch ei lawrlwytho isod, a’i dychwelyd i [email protected]. Llenwch ffurflen Cyfle Cyfartal a’i chyflwyno cyn y dyddiad cau.
Contract: Permanent, rhan-amser (yn amodol ar gyfnod prawf o 3 mis).
Dyddiad cau: Dydd Llun 30 Mehefin, 10am
Cyfweliadau: wythnos yn dechrau 7 Gorffennaf
Cyflog: £27,248 pro rata (£16,348.80 am 24 awr)
Oriau: 24 awr yr wythnos (TOIL) gan gynnwys egwyl cinio o awr â thâl. Bydd rhywfaint o waith ar y penwythnosau a gyda’r nosy n angenrheidiol.
Lleoliad: Byddwch wedi’ch lleoli yn Chapter, Caerdydd, ond rydyn ni’n cynnig model hybrid sy’n golygu y gallwch weithio gartref hefyd, lle bo’n bosib.
Diben y swydd
Prif ddiben y swydd yw cefnogi’r Pennaeth Codi Arian ym mhob agwedd ar waith codi arian strategol Chapter er mwyn cyflawni targedau incwm blynyddol ar gyfer y sefydliad.
Byddwch yn gweithio ar draws ymchwilio a rhagamcanu, trin, stiwardiaeth, datblygu cynigion, adrodd a rheoli data i gynhyrchu incwm ar draws ymddiriedolaethau a sefydliadau, ffynonellau statudol, unigolion a phartneriaethau busnes.
Byddwch yn rheoli ein cynlluniau aelodaeth gan sicrhau bod y perthnasau hynny’n cael eu meithrin i gynyddu buddsoddiad rhanddeiliaid yn y sefydliad, ein hethos cymunedol a’n huchelgais o ran y rhaglen.
Bydd gofyn i chi hefyd sefydlu systemau cywir i sicrhau bod cofnodion yn cael eu cynnal, a bod yr holl waith yn cael ei fonitro a’i werthuso yn y ffordd fwyaf effeithlon, a chi fydd yn gyfrifol am baratoi adroddiadau ar gyfer dyfrniadau llwyddiannus yn unol ag amserlenni y cytunir arnynt.
Ein hymgeisydd delfrydol
Bydd ein hymgeisydd delfrydol yn unigolyn meddylgar ac uchelgeisiol sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa ym maes codi arian. Byddwch yn mwynhau gweithio gyda phobl, a byddwch yn awyddus I gynyddu eich profiad yn y sector codi arian.
Byddwch yn chwilfrydig ac yn angerddol am y celfyddydau ac yn ymroddedig i gefnofi rhaglenni creadigol cydweithredol sy’n agored ac yn hygyrch i bawb.
Byddwch yn drefnus a bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog, sylw craff at fanylion, a’r gallu i ymdrin yn ddoeth â sefyllfaoedd sensitif. Byddwch yn hyblyg ac yn gallu gweithio’n unol ag amserlenni tynn, gan aros yn ddigynnwrf a chanolbwyntio dan bwysau. Byddwch yn ffynnu mewn tîm ond bydd modd i chi hefyd weithio ar eich menter eich hunan pan fydd angen.
Rydyn ni’n ganolfan i bawb, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb. Rydyn ni’n croesawu yn benodol bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, neu sy’n F/fyddar neu’n anabl, gan eu bod wedi’u tangynrchioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd.
Porthor Cegin
I wneud cais, anfonwch eich CV neu llenwch y ffurflen gais, y gellir ei lawrlwytho isod, a'i dychwelyd i [email protected] a dylid llenwi ffurflen Cyfle Cyfartal.
Adrodd i: Prif Gogydd
Oriau: Hyblyg, dim sifftiau hollt, dim mwy nag 8 awr y dydd gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc
Cyfradd: £12.00 + awgrymiadau
Diben y swydd
Mae’r swydd hon yn gyfrifol am sicrhau y cynhelir safonau uchel o lendid yn y gegin, gan gynnwys olchi llestri a chynnal glendid offer y gegin a’r ardaloedd storio; ac ymdrin â chyflenwadau bwyd, gan sicrhau y caiff bwyd ei storio’n gywir ac yn unol â rheoliadau hylendid bwyd.
Film Academy Micro Shorts Grants
Grantiau gwerth £1000 ar gael i wneuthurwyr ffilmiau ifanc rhwng 16 a 25 oed o Gymru /yng Nghymru allu creu ffilm ficro!
Mae Academi Ffilm y BFI a Chapter yn cynnig grantiau o £1000, ynghyd â sesiynau mentora gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant, i wneud ffilm ficro hyd at 100 eiliad o hyd.
Mae’r cyfle ar gael i wneuthurwyr ffilmiau ifanc rhwng 16 a 25 oed a aned yng Nghymru neu sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.
Dyddiad cau: 12 hanner dydd, Dydd Llun 2 Mehefin
-
Amdanom
Sefydlwyd ni gan artistiaid ym 1971, ac rydyn ni’n ganolfan ryngwladol ar gyfer y celfyddydau cyfoes a diwylliant.
-
-
Cod Ymddygiad
Tra byddwch yma, rydyn ni am i chi deimlo’n ddiogel, wedi’ch parchu, a bod modd i chi fwynhau eich profiad gyda ni.
-