
Events
Cwrdd â’r Tîm
Free
Nodweddion
Dewch i gwrdd â’r tîm Chapter yng Nghyntedd y Sinema rhwng 2-4pm
Galwch heibio am sgwrs anffurfiol dros baned, a manteisiwch ar y cyfle i ddod i nabod ein tîm. Bydden ni wrth ein boddau pe baech chi’n ymuno yn ein sgyrsiau creadigol am y rhaglen sydd ganddon ni yma – dywedwch wrthon ni beth rydych chi’n ei hoffi ac yn ei gasáu, a beth hoffech chi weld mwy ohono! Rydyn ni hefyd yn eich annog i gynnig syniadau, sôn wrthon ni am brosiect sydd gennych chi ar y gweill, gofyn am gyngor ar gymorth ariannu, neu gamau nesaf eich gyrfa.
Rydyn ni’n awyddus i ddweud helo wyneb yn wyneb, i chi gael dod i nabod y wynebau tu ôl i’r enwau, ond rydyn ni hefyd yn hapus i drefnu sgwrs drwy Zoom os na allwch chi ddod i’r safle. Does dim angen archebu lle i ymuno yn y sgwrs, dim ond galw heibio a dweud helo.
More at Chapter
-
- Events
Repair Cafe 2025
Dewch draw i Chapter ar drydydd dydd Sadwrn pob mis lle byddwn ni’n cynnal Caffi Trwsio Cymru.
-
- Events
Drones Comedy Club 2025
Dewch i fwynhau llond bol o chwerthin bob yn ail wythnos yng Nghlwb Comedi Drones.
-
- Events
Everyman Theatre: Under Milk Wood
I ddathlu canmlwyddiant geni Richard Burton yn 1925, y Llais Cyntaf yng nghynhyrchiad gwreiddiol y BBC, dewch i hwylio ar draws y môr tymhestlog ar fwrdd yr S.S. Kidwelly i bentref Llareggub.