Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Film

Riefenstahl (15)

15
  • 2024
  • Germany

£0 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Andres Veiel
  • Tarddiad Germany
  • Blwyddyn 2024
  • Tystysgrif 15
Yn beniog ac yn hardd, ysbrydolwyd Leni Riefenstahl gan fyd y ffilmiau yn ifanc, a gwnaeth yn dda yn y diwydiant yn gyflym, i ddechrau fel actores a ffotograffydd ac wedyn fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd. Daeth yn fydenwog drwy ei sgiliau technegol, ac fel hoff wneuthurwr ffilmiau Hitler, daeth hefyd yn ddrwgenwog. Mae ei ffilmiau Triumph of the Will ac Olympia yn dal i gael eu hastudio am eu harddwch technegol ac am eu defnydd o ddelwedd fel propaganda. Chafodd hi mo’i herlyn yn ystod treialon Nuremberg, a daeth yn symbol o'r genhedlaeth a honnai nad oedden nhw’n ymwybodol o'r hil-laddiad oedd yn digwydd yn eu henw. Mae'r cipolwg cyfareddol yma ar ei bywyd a'i gwaddol yn dangos tywyllwch a grym y gwadu yna.

+ cyflwyniad u3a ar 23 Mehefin, 12.55pm. Mae mudiad u3a yn rhoi cyfleoedd i bobl sydd wedi ymddeol neu wedi ymddeol yn rhannol i ddod at ei gilydd.

Share

Times & Tickets

Key

  • AD Audio Description available