
Agor Dyfal Droi y Garreg gan Sophie Mak-Schram yn rhan o Safbwynt(iau) yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter
- Published:
Mae’r artist Sophie Mak-Schram wedi agor eu harddangosfa ddiweddaraf, Dyfal Droi y Garreg, yn rhan o Safbwynt(iau), rhaglen gelfyddydau feiddgar sy’n ail-ddychmygu hanes Cymru, yn herio naratifau hanesyddol ac yn creu lle i leisiau sydd heb gael sylw digonol. Penllanw dwy flynedd o gydweithio rhwng Amgueddfa Cymru a Chapter yw’r arddangosfa hon.
Yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 14 Mehefin 2025 ac yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter ar 13 Medi 2025, mae'r arddangosfa ddwy ran hon yn trafod sut mae pŵer yn cael ei brofi, ei rannu a'i herio mewn llefydd amgueddfaol a diwylliannol.
Gan weithio gydag ymgyrchwyr, gweithwyr cymuned, artistiaid a staff y ddau gorff, mae Sophie wedi datblygu ystod o 'offer' cydweithredol sy'n herio ac yn ail-ddychmygu strwythurau pŵer. Mae’r offer yn cynnwys templedi mynediad a phrosesau gwaith newydd i fegaffonau wedi'u haddasu, cerameg a darnau sain. Bydd detholiad o'r 'offer' i'w gweld yn rhan o Dyfal Droi y Garreg, gan annog ymwelwyr i ymgysylltu yn feirniadol â chwestiynu sut maen nhw'n uniaethu â sefydliadau diwylliannol, diwylliant a phŵer.
Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae'r arddangosfa yn ystyried sut mae gwrthrychau yn cael eu casglu a'u hadnabod, lleisiau pwy a glywir wrth drafod y gwrthrychau a sut i dorri ar draws rhai o reolau cudd yr amgueddfa.
Yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, bydd arddangosfa newydd a gwaith celf yn y fynedfa a'r caffi yn annog ymwelwyr i feddwl am sut a ble y gall pobl gwrdd, â phwy y cânt gwrdd, a beth sy'n eu helpu i wneud hyn mewn gwahanol ffyrdd.
Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys gwaith newydd gan Sophie a'i chyfranwyr, ochr yn ochr ag eitemau allweddol o gasgliadau'r Amgueddfa, gan gynnwys Casgliad Gwasanaeth Allestyn Ysgolion yr Amgueddfa a'r coridor Celf Asiaidd. Mae Dyfal Droi y Garreg yn dangos sut mae pŵer yn siapio beth a welir, a gedwir ac a ddehonglir.
"Mae dad-drefedigaethu yn cynnwys ail-gyfeirio llawer o'r gwerthoedd a'r strwythurau sydd ar hyn o bryd yn gormesu'r rhan fwyaf ohonom. Y cwestiwn, mewn cyd-destun Ewropeaidd, yw: a oes modd dad-drefedigaethu tra bod y safbwynt canolog yn drefedigaethol? Dros y ddwy flynedd diwethaf, rydw i wedi gweithio gydag ystod o bobl i feddwl am ymatebion i hyn a'u creu – er mwyn enwi, newid ac ail-ddychmygu'r strwythurau a'r gwerthoedd sy'n gormesu cymaint ohonom."
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy gyfrwng Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, mae Safbwynt(iau) yn fenter arloesol sy'n dod â saith artist ynghyd i drafod y cysylltiadau dwfn sy'n aml heb eu lleisio rhwng Cymru a hanes byd-eang ymerodraeth, mudo a gwrthsefyll.
Cynhelir Safbwynt(iau) yn saith amgueddfa Amgueddfa Cymru ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru gyda phob artist yn taflu goleuni ar hanesion cudd sy'n rhan annatod o'r casgliadau cenedlaethol.
Bydd Dyfal Droi y Garreg yn agor ar 14 Mehefin 2025 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac 13 Medi yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter. Bydd yn para tan 15 Chwefror 2026 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a than 11 Ionawr 2026 yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter.