
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Vera Drew
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 2022
- Tystysgrif 15
Mae digrifwr sydd ar ochr anghywir y gyfraith yn profi heriau â’i hunaniaeth rhywedd yn ffurfio criw gwrth-gomedi newydd, ac yn brwydro gyda chroesgadwr ffasgaidd mewn clogyn. Mae’r ffilm barodi DIY chwyldroadol yma yn ail-gread doniol o’r stori ddod-i-oed hunangofiannol glasurol. Mae’n dilyn merch draws ddihyder sydd heb ddod allan wrth iddi symud i Ddinas Gotham i lwyddo fel digrifwr, gan ymuno â chriw sioe sgets hwyr sydd wedi’i sancsiynu gan y llywodraeth mewn byd lle mae comedi’n anghyfreithlon. Wrth i lwyddiant prif ffrwd osgoi ein harwres, mae’n ymuno â thîm bob-sut o bobl ar yr ymylon a’i chariad Mister J, mae’n cael egni newydd fel jociwr hyderus (a seicotig) ar daith o wrthdaro gyda chroesgadwr ffasgaidd y ddinas. Mae tybiau o gemegionbenyweiddio, darnau cartŵn rhywiol, seiciatryddion bwganaidd, LorneMichaels mewn CGI, a dysfforia rhywedd seicedelig oll yn rhan o’r ddrama. Creodd yr awdur / cyfarwyddwr / golygydd / seren VeraDrew y campwaith macsimalaidd yma gan ddefnyddio’i phrofiadau bywyd ei hun, a oedd yn sownd ym myd uffernol hawlfraint tan i’r ffilm gael ei rhyddhau eleni. Ymunwch â ni ar y daith lawen yma, sy’n daith deimladwy bersonol ac yn barodi ddoniol.
Times & Tickets
-
Dydd Sul 29 Mehefin 2025
-
Dydd Llun 30 Mehefin 2025
-
Dydd Iau 3 Gorffennaf 2025
Key
- AD Audio Description available
- C Captioned