
Threshold: Public Bodies
Mae Trothwy: Public Bodies, wedi’i guradu gan Rhys Slade Jones, yn cwestiynu beth mae bod yn cwiar yn gyhoeddus yn ei olygu, a beth mae gofod cyhoeddus yn ei olygu i bobl gwiar.
Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.
Read moreMae ein rhaglen berfformiadau yn lle ar gyfer arferion celf fyw arbrofol a rhyngddisgyblaethol, lle caiff artistiaid eu cefnogi i gymryd risgiau a lle gall cynulleidfaoedd ddod o hyd i raglenni cyffrous, gwreiddiol a hygyrch.
Mae Trothwy: Public Bodies, wedi’i guradu gan Rhys Slade Jones, yn cwestiynu beth mae bod yn cwiar yn gyhoeddus yn ei olygu, a beth mae gofod cyhoeddus yn ei olygu i bobl gwiar.
Dewch i ddathlu cylch y flwyddyn! Dewch i rannu yn y defodau a’r arferion gwerinol sy’n dwyn pobl ynghyd ar droad y tymhorau.
Profiad lles cyfannol yw Seiniau Iacháu Indiaidd sydd wedi'i wreiddio mewn hen draddodiadau Indiaidd sy'n defnyddio dirgryniadau sain i hyrwyddo iachâd corfforol, emosiynol ac ysbrydol. Mae sesiwn fel arfer yn cynnwys defnyddio offerynnau traddodiadol Indiaidd a chanu a llafarganu mantras neu synau cysegredig.
Mewn seinweddau arbrofol, mae bregusrwydd cynhenid y ‘naturiol’ yn cwrdd â thro’r ‘annaturiol’. Dyma’r thema y bydd artistiaid cysylltiedig Pasta Now– wedi’u curadu gan Rosey Morwenna, Rowan Campbell a Pam Rose Cot t– yn ei harchwilio ar gyfer ail rifyn Trothwy.
Rydyn ni’n cyflwyno cerddoriaeth, sain, symudiad, dawns, theatr, sgwrs, gweithdai a digwyddiadau mewn cyd-destunau byw. Mae ein hymrwymiad i berfformiadau arbrofol yn rhan o’n hanes cyfoethog o gefnogi arferion celf fyw radical, a’n safle unigryw yng Nghaerdydd fel lleoliad celfyddyd aml-gyfrwng sydd â’r capasiti i gefnogi artistiaid i ddatblygu eu harfer a rhannu eu gwaith yn ddeinamig.
Rydyn ni’n cefnogi artistiaid sy’n ymwneud â’r syniad o arfer byw: beth mae bod gyda chynulleidfa yn ei olygu? Sut gall y ddeinameg yma fod yn lle i synhwyro/dysgu/bod gyda’n gilydd – i feddwl yn feirniadol ac yn gasgliadol? Mae ein rhaglen perfformiadau yn galw ar ein rhaglen ehangach ac yn ymateb iddi, sy’n cynnwys celf weledol a ffilm, gan ffurfio cytser o syniadau ac arferion. Mae ein gwaith yn hyblyg, yn gydweithredol ac yn ymroddedig i’n cymuned – artistiaid, cynulleidfaoedd, cymdogion, staff, a gweithwyr diwylliannol – ar garreg ein drws, yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Chapter yn elusen gofrestredig – drwy gynnal eich digwyddiad yma, byddwch chi’n ein helpu i barhau i gefnogi artistiaid a chymunedau creadigol Cymru.
Pa rodd gwell na pherfformiadau radical, ffilmiau indi, dramâu newydd a tymhorau ffilm.
Gweld ein byw rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!