Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Performance

Threshold: Public Bodies

£5 - £12

Nodweddion

Trothwy yw enw’r noson fisol newydd o berfformio yn Chapter, sydd wedi’i churadu gan artist lleol, ac sy’n gwahodd artistiaid lleol i gyfrannu perfformiadau newydd/amrwd/anorffenedig mewn ysbryd o chwarae, archwilio a chyfnewid. Mae Trothwyyn bwynt mynediad, yn fan cyfarfod, ac yn ffin rhwng arferion/safbwyntiau rydyn ni’n gwahodd artistiaid i’w chroesi.

Mae Trothwy: Public Bodies, wedi’i guradu gan Rhys Slade Jones, yn cwestiynu beth mae bod yn cwiar yn gyhoeddus yn ei olygu, a beth mae gofod cyhoeddus yn ei olygu i bobl gwiar.

Gyda pherfformiadau gan Kath Ashill, Nessa, Chris White, a Rhys Slade Jones.

___


Ynglun â'r artistiaid

Artist rhyngddisgyblaethol o Dreherbert yw Rhys Slade Jones sy'n byw ac yn gweithio yn y de-ddwyrain. Drwy droedio’r llinell rhwng y cyfeillgar a'r heriol, mae Rhys yn creu gwaith gwleidyddol sy'n pontio bydoedd cabare, perfformio a chrefft.

Yn ei hanfod, mae gwaith Rhys yn archwilio cymuned, hanes a grym, gan gwestiynu'n gyson y systemau byd-eang rydyn ni i gyd wedi ein clymu ynddynt. Maen nhw’n defnyddio perfformiad i ymchwilio i'r berthynas rhwng eu corff eu hunain, y dirwedd, a'r deunyddiau a geir ynddo, gan greu gwrthrychau a gwisgoedd sy'n caniatáu i wahanol gymeriadau ddod yn fyw o flaen cynulleidfa. Mae eu harfer yn ceisio creu lle ar gyfer ffolineb, hwyl ac abswrdiaeth – gweithred sy'n aml yn anodd ond yn fwriadol. Mae eu gwaith yn fyfyrdod ar ecolegaucwiar, egni diderfyn rêfscwiar, a natur wleidyddol gynhenid llawenydd, sydd i gyd yn cael eu cymhlethu gan ymwybyddiaeth o drychineb amgylcheddol a galar ar y cyd.

Yn ddiweddar, mae Rhys wedi bod yn ymchwilio i domenni slag y Rhondda – amgylcheddau diangen sydd wedi’u taflu o’r neilltu – gan archwilio grym a pherygl llithriadau a gwastraff. Mae ganddyn nhw ddiddordeb arbennig yn y cysyniad o “slag” fel trosiad: y deunydd sydd dros ben, y peth sydd wedi'i daflu a'i anwybyddu.

Rhys yw derbynnydd Gwobr COMMON a Chronfa Gwaith Byw Jerwood (2021), ac mae wedi creu gwaith gyda Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales, a The Pleasance. Ar hyn o bryd, mae Rhys yn Artist mewn Gwasanaeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, cafodd Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn 2022 gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, ac mae'n aelod sefydlu o'r gasgleb berfformio cwiar CWM RAG.

Kath Ashill

Mae perfformio byw, fideo a gosodwaith yn cyflwyno profiadau personol Ashill o hunaniaeth dosbarth gweithiol byw. Mae'r gwrthdaro diwylliannol rhwng cefndir ac arfer artistig yr artist yn gorwedd yn y naratifau datgysylltiedig yn y gwaith. Mae Ashill yn mynd ar drywydd theatrigrwydd bywyd beunyddiol wrth rannu darnau o hunangofiant, sylwadau ar bobl, hanes a safle.

Mae'r defnydd mynych o drag yng ngwaith yr artist yn agor deialog am hanes y brenin drag mewn perfformiadau cyfoes, yn ogystal â hwyluso archwiliad o hunaniaeth rhywedd yr artist.

Mae gwaith Ashill yn y gorffennol wedi eu gweld yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth rhywedd a hanes y Prif Fachgen mewn pantomeim Prydeinig, perthnasoedd rhyngrywogaethol mewn cydweithio celf a gofal iechyd, tref cowboi ffug wedi'i lleoli yng nghymoedd y de. Mae Ashill yn mynd ar drywydd yr absẃrd mewn bywyd bob dydd yng Nghymru. Mae damcaniaeth Cwiar a Crip wrth wraidd gwaith Ashill. Mae cefndiroedd theatrau ac estheteg DIY drama amatur yn mynegi perthnasedd y themâu yma.

Cwblhaodd Kathryn Ashill eu PhD ym Mhrifysgol Manceinion, lle archwilion nhw botensial cydweithio rhyngrywogaethau wrth greu gwaith celf drwy berfformiadau a gofal iechyd dynol. Ariannwyd yr ymchwil gan Ymddiriedolaeth Wellcome. Mae gan Ashill hefyd radd BA Anrhydedd mewn Celfyddyd Gain (Cyfryngau Cyfun) o Brifysgol Fetropolitan Abertawe (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), ac mae ganddynt radd MFA o Ysgol Gelf Glasgow, ac mae wedi arddangos gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Nessa

O! What’s Occrurin’! Bydd trydydd dynwaredwr Nessa gorau Cymru a diferion edifeirwch hen ffasiwn Cwm Rag, VanessaShanessaCrossnessa ‘y Drawswisgwraig’ Jenkins yn llenwi ein llwyfan yn anfoddog, gyda chymysgedd o wleidyddiaeth uchel, a straeon nid yw hail-hadrodd! Daliwch yn dynn yn eich pyrsiau a'ch dynion ferched, neu fel arall bydd hi’n bachu’r ddau! Teidi.

Chris White

Bardd a pherfformiwr sy'n dod yn wreiddiol o Ganolbarth Lloegr yw Chris White, ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn y de-orllewin. Ac yntau’n hoff o greu barddoniaeth sy'n hwyl ac yn hygyrch, mae Chris wedi perfformio ei waith yn genedlaethol mewn gwyliau a nosweithiau llafar o Tongue Fu i Latitude.

Mae'n creu sioeau hyd llawn yn rheolaidd ac wedi mynd â nhw i Theatr Frenhinol Plymouth, Theatr y Bobl Camden a CambridgeJunction. Yn ei ffordd hurt a swrealaidd, mae'n aml yn siarad am ddosbarth, cwiardeb a hunaniaeth. Mae wedi ennill sawl slam, daeth yn drydydd yn SlamRoundhouse Llundain y llynedd ac mae'n gyn-Fardd Caerwysg. Fe hefyd sydd wedi trefnu’r noson farddoniaeth reolaidd o'r enw Spork! ac mae wedi cynhyrchu a hwyluso gweithdai i oedolion a phobl iau.

Share

Times & Tickets