Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Uchafbwyntiau mis Mai

  • Published:

Rydyn ni ar restr fer Amgueddfa’r Flwyddyn Art Fund 2025, gwobr fwya’r byd i amgueddfeydd!

Bachwch sedd yn ein sinemâu ar gyfer dwy ŵyl ffilm fis yma! Bydd Penwythnos Animeiddio Caerdydd gyda ni rhwng 17-18 Mai, gyda rhaglen fywiog a hybrid o animeiddio. Bydd dangosiadau ffilm, sgyrsiau, gweithdai a mwy!

Dewch i Ŵyl Ffilm Watch Africa 2025, dathliad blynyddol Cymru o sinema Affricanaidd.

Mae Gwobr Ffilm Cwiar Chapter ’nôl! Rydyn ni’n dathlu’r ffilmiau byrion LHDTCRhA+ gorau a wnaed yng Nghymru. Mae ceisiadau nawr ar agor, a’r dyddiad cau yw dydd Llun 19 Mai.

Fel rhan o raglen Sain yn Chapter, rydyn ni’n cyflwyno Copper Sounds, sy’n archwilio natur ffisegol a gweledol sain gyda chefnogaeth gan yr artist Gwen Siôn.

Ymunwch â ni yn y theatr ar gyfer perfformiad amrwd gan y gantores glodwiw Keeley Forsyth, gyda Matthew Bourne yn cyfeilio ar y piano a chefnogaeth gan yr artist o Gaerdydd, Teddy Hunter.